Rhaglen | Programme
English Cymraeg
Grŵp Crochenwaith Yr Hydref
Rydym wrth ein boddau i rannu cyfres newydd o sesiynau crochenwaith i drigolion lleol dros yr Hydref. Yn dilyn cyfres o sesiynau blasu wedi’u harwain gan yr artist Lucy Dickson, rydym yn cynnig y cyfle i ddeg o gyfranogwyr i fynychu cwrs wyth wythnos gyda’r nos yn ystod mis Medi.
Yn y sesiynau, bydd y cyfranogwyr yn dysgu technegau crochenwaith ac yn meithrin dealltwriaeth am offer a deunyddiau mewn amgylchedd ymlaciol a hwyliog. Dyma’r cwrs perffaith i ddechreuwyr, a hefyd i bobl sydd â rhywfaint o ddealltwriaeth o grochenwaith, er mwyn profi rhywbeth newydd a chreadigol dros yr haf. Bydd cyfle i bob cyfranogwr gynllunio a chreu prosiect gan ddefnyddio’r sgiliau maen nhw wedi’u datblygu, fel adeiladu â llaw, dulliau addurno, a dylunio arwyneb.
Bydd y sesiynau’n rhedeg bob Nos Iau am wyth wythnos o 29 Medi – 17 Tachwedd, rhwng 6-8pm.
Mae’r cwrs am ddim, caiff yr holl ddeunyddiau eu darparu a chaiff y gwaith ei danio ar y safle gan dîm Peak. Gan bod niferoedd yn gyfyngedig, byddwn yn blaenoriaethu’r sawl sy’n ymrwymo i gymryd rhan ym mhob sesiwn.
Er mwyn cadw lle, llenwch y ffurflen fan hyn ac os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â Lucy drwy ebostio lucy@peak.cymru.
Caiff y rhaglen hon ei chefnogi gan Gronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol.
Pethe Platfform 2 Medi - Gweithdy gyda Lucy A. Sames
Yn y digwyddiad rhannu nesaf ar Blatfform 2, bydd y curadur, yr ymchwilydd a’r addysgwr Lucy A. Sames yn ymuno â ni.
LUMIN + Marva Jackson Lord
Ar gyfer digwyddiad rhannu gydag artistiaid mis Gorffennaf ar Blatfform 2, bydd yr artistiaid a chyd-sylfaenwyr LUMIN Sadia Pineda Hameed a Beau W Beakhouse, a’r artist Marva Jackson Lord yn ymuno gyda ni.
Grŵp Crochenwaith Haf i Bobl Ifanc
Rydyn ni’n falch o gael cyhoeddi bod rhaglenni crochenwaith ’nôl yn yr Hen Ysgol yng Nghrughywel. Ar ôl cynnal cyfres o sesiynau blasu gyda’r artist Lucy Dickson, rydyn ni nawr yn lansio rhaglen haf ar gyfer grŵp o wyth o bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed.
Yr Hen Ysgol: Criw Celf Hâf
Ymunwch â ni ar Ddydd Llun 18 Gorffennaf am wythnos cyfan o weithdai creadigol yn yn ein Stiwdio agored a golau yn Yr Hen Ysgol yng Nghrug Hywel. Bydd ein sylw ar greu drwy Serameg, Arlunio, Printio, Paentio, a thrip celf arbennig i orffen yr wythnos! Felly os chi’n joio creu mewn ffyrdd arbrofol a chwareus, ma hwn i chi!
Pethe Platfform 2 - Dylan Huw + George Hampton Wale
I lansio’n cyfres newydd o ddigwyddiadau rhannu gydag artistiaid ym Mhlatfform 2, byddwn ni’n croesawu’r artist Dylan Huw, sy’n cydweithio gyda ni ar Casgleb, a’r dylunydd a’r gwneuthurwr George Hampton Wale.
Yr Hen Ysgol: Criw Celf
Ymunwch â ni bob Dydd Mawrth am 5 wythnos yn ein Stiwdio braf ac agored yn Yr Hen Ysgol yng Nghrughywel. Byddwch yn canolbwyntio ar greu gyda ◌ Serameg ◌ Arlunio ◌ Creu Zines ◌ Paentio + chreu ein pigmentau ein hunain! Felly os chi’n mwynhau creu pethau gyda’ch dwylo, chwarae, a chwrdd â ffrindiau newydd, dyma’r cyfle i chi!
Yr Hen Ysgol: Cyfle Creu Crochenwaith
Ar ôl gorfod cau Yr Hen Ysgol yn sgil cyfyngiadau Covid-19 a chymryd y cyfle i adnewyddu ein cegin a’n hadnoddau crochenwaith, ni’n gyffrous iawn i groesawu chi nôl i’r Hen Ysgol yr Hydref hwn. Ymunwch â ni ar Ddyddiau Mercher rhwng 5-7pm y gaeaf hwn i roi tro ar sesiynau crochenwaith rhad ac am ddim gyda’r artist serameg Lucy Dickson, gyda chymorth Sarah Mckay. Rydym yn cynnal dau fath o sesiwn blasu: Crochenwaith Pobl Ifanc (16-25 oed) a grŵp Trigolion Lleol, i deuluoedd a phobl o bob oed.
Yr Hen Ysgol: Criw Celf
Mae Criw Celf de Powys yn gwahodd pobl ifanc 15 – 18 mlwydd oed i gyfres o weithdai dan arweiniad artistiaid i’w cynnal yn Peak Cymru, Crug Hywel.*
Bydd y rhai a fydd yn cymryd rhan yn gweithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o artistiaid cyfoes, gan arwain at arddangosfa undydd i ddangos y gwaith a fydd wedi ei greu yn ystod yr wythnos.
ululations
Mae ululations yn gyhoeddiad, mewn print a sain, o sgwennu newydd sbon gan Kandace Siobhan Walker, Nia Morais a Fin Jordão, gyda chyfieithiadau creadigol gan Elan Grug Muse, wedi ei gynhyrchu gan Peak Cymru gyda Freya Dooley a Mark El-khatib.
Darllen - pigwch copi o’r cyhoeddiad print yn Platfform 2
Gwrando - darllediad byw fan hyn am 18:30, 9/7/2021
Art Night a Peak yn cyflwyno: Creating dangerously (we-I insist!), gan Alberta Whittle
Y mis yma, mae Gorsaf Drenau’r Fenni yn un o gyfres o leoliadau newydd ledled y DG sy’n cynnal Art Night 2021, gŵyl gelf gyfoes mis o hyd, rhad ac am ddim. Mae’r cyflwyniad yn lansio gofod celfyddydol newydd Peak, Platfform 2, ar ochr ddeheuol y trac trenau.
Ar-lein: Cerdded am yn ôl tua’r dyfodol: Grwpiau Darllen
Y Mis mai hwn, mae Peak yn darparu llety ar y cyd gyda thri o grwpiau darllen ar-lein gyda Dr Kirsti Bohata, Kandace Siobhan Walker ac Esyllt Lewis, fel porth i’n rhaglen Mae Diwylliant yn Gyffredin, gan nodi canrif ers geni’r damcaniaethwr diwylliannol, y sosialydd a’r addysgwr Raymond Williams a aned ym mhentref Pandy yn y Mynyddoedd Duon ym 1921.