Grŵp Crochenwaith Haf i Bobl Ifanc
Rydyn ni’n falch o gael cyhoeddi bod rhaglenni crochenwaith ’nôl yn yr Hen Ysgol yng Nghrughywel. Ar ôl cynnal cyfres o sesiynau blasu gyda’r artist Lucy Dickson, rydyn ni nawr yn lansio rhaglen haf ar gyfer grŵp o wyth o bobl ifanc rhwng 18 a 25 oed. Ymunwch â ni yn ein stiwdio olau yn yr Hen Ysgol, lle mae cegin a gofod awyr agored er mwyn cael egwyliau a lluniaeth.
Dros y chwe wythnos, bydd y cyfranogwyr yn dysgu technegau crochenwaith ac yn meithrin dealltwriaeth am declynnau a deunyddiau mewn amgylchedd ymlaciol a hwyliog. Bydd cyfle i bob cyfranogwr gynllunio a chreu prosiect gan ddefnyddio’r sgiliau maen nhw wedi’u datblygu, fel adeiladu â llaw, dulliau addurno, a dylunio arwyneb. Dyma’r cwrs perffaith i ddechreuwyr, a hefyd i bobl sydd â rhywfaint o ddealltwriaeth o grochenwaith, er mwyn profi rhywbeth newydd a chreadigol dros yr haf.
Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal rhwng 2-5pm ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Mercher 27 Gorffennaf
Dydd Llun 1 Awst
Dydd Mercher 10 Awst
Dydd Mercher 17 Awst
Dydd Mercher 24 Awst
Dydd Mercher 31 Awst
Mae’r cwrs am ddim, darperir yr holl ddeunyddiau, a bydd y gwaith yn cael ei danio ar y safle gan dîm Peak. Mae nifer y llefydd yn gyfyngedig, a byddwn ni’n blaenoriaethu pobl sy’n ymrwymo i ymuno â phob sesiwn wrth gofrestru. Cefnogir y rhaglen yma gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
I archebu lle, llenwch y ffurflen yma, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Lucy drwy anfon e-bost at lucy@peak.cymru.