Back to All Events

LUMIN + Marva Jackson Lord

  • Platfform 2 Abergavenny Train Station NP7 5HY Wales (map)

Ar gyfer digwyddiad rhannu gydag artistiaid mis Gorffennaf ar Blatfform 2, bydd yr artistiaid a chyd-sylfaenwyr LUMIN Sadia Pineda Hameed a Beau W Beakhouse, a’r artist Marva Jackson Lord yn ymuno gyda ni.  

Casgleb guradurol, radio a gwasg fach yw LUMIN - sy’n cefnogi artistiaid, awduron ac ymarferwyr diwylliannol newydd a sefydledig gyda gwaith sy’n radical, yn bersonol ac yn arbrofol. Wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, caiff LUMIN ei rhedeg gan yr artistiaid Sadia Pineda Hameed a Beau W Beakhouse, gan ffurfio casgleb ehangach gyda’u cydweithwyr rheolaidd.

Fel rhan o raglen Casgleb, mae LUMIN yn ymchwilio i syniadau a strwythurau ymreolaeth, gan archwilio beth yw ystyr gofod ymreolaethol yn y celfyddydau (ac ar gyfer cyd-greu), a sut mae ymreolaeth yn ymwneud â gwahanol feysydd eu harfer. Yn gyffredinol, mae ymreolaeth yn golygu hunan-lywodraethu, ac yn y cyd-destun yma, mae LUMIN yn edrych ar ymreolaeth fel dull o ddod o hyd i ffordd y tu hwnt i systemau gormesol ddoe a heddiw. Bydd Sadia a Beau yn cyflwyno eu harfer fel deuawd gydweithredol, ac mae eu gwaith yn dramateiddio, yn ail-adeiladu ac yn ail-greu dyfodol ymreolaethol ac amgen; eu gwaith fel LUMIN, sef casgleb guradurol, radio a phrint yng Nghymru; ac yn rhannu rhywfaint o’r meddylfryd o gwmpas sut mae ymreolaeth yn ganolog i’w harferion, eu ffyrdd o weithio a’u cyfeillgarwch sy’n gorgyffwrdd. 

Artist Jamaicaidd-Ganadaidd yw Marva Jackson Lord sy’n byw yn y Bannau, ac mae ei gwaith ym maes barddoniaeth, sain, a’r cyfryngau digidol yn archwilio tirwedd a naratifau hynod.

Bydd Marva’n cyflwyno ei harfer ochr yn ochr â’i gwaith eang ym myd radio cymunedol. Bu Marva’n gweithio fel rhaglennydd yn ckln-fm yn Toronto am flynyddoedd lawer, gan edrych ar y radio fel gofod ar gyfer cerddoriaeth, sain archifol, cyfweliadau, barddoniaeth ac adrodd straeon. Byddai Marva’n aml yn cynnwys deunyddiau am hil, dosbarth, hawliau gweithwyr a chyfiawnder cymdeithasol, gan ddarllen gwaith gan Malcolm X, Angela Davies, Toni Morrison ac eraill ar yr awyr. Yn y digwyddiad yma, bydd hi’n myfyrio am y gwaith yma ym maes radio cymunedol ac yn trafod datblygiad ei gwaith diweddar Ecosystem a Myfyrdod ar Amlieithrwydd, sy’n myfyrio ar y llais, iaith, a realiti bod yn fenyw Ddu sy’n byw yn y rhan yma o gefn gwlad Cymru. Wedi’i chomisiynu gan Peak a Pegwn, mae’r gwaith yma’n olrhain hanesion a gwaddol trefedigaethol cysylltiedig, yn archwiliad hirdymor o iaith, cof emosiynol a chysylltiad personol dwfn gyda’r tir.


Dyma gyfres o ddigwyddiadau sy’n rhan o Casgleb, partneriaeth ymchwil blwyddyn o hyd, ar y cyd rhwng Peak, Trafnidiaeth Cymru, Pobl Ifanc, Pegwn a LUMIN. Caiff Casgleb ei gefnogi gan gronfa Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru.

Previous
Previous
27 July

Grŵp Crochenwaith Haf i Bobl Ifanc

Next
Next
1 September

Pethe Platfform 2 Medi - Gweithdy gyda Lucy A. Sames