I lansio’n cyfres newydd o ddigwyddiadau lle bydd artistiaid yn rhannu mwy am eu gwaith ym Mhlatfform 2, byddwn yn croesawu’r artist Dylan Huw, sy’n cydweithio gyda ni ar Casgleb, a’r dylunydd a’r gwneuthurwr George Hampton Wale.
Awdur sy’n byw yng Nghaerdydd yw Dylan Huw. Fe yw Awdur Preswyl Celfyddydau Jerwood ar hyn o bryd, ac mae hefyd yn Gymrawd Cymru’r Dyfodol 2022-3. Fel rhan o gywaith Casgleb sy’n cael ei gynnal gan Peak, mae Dylan wedi bod yn datblygu Pegwn, sef fforwm ar gyfer rhannu gwaith a syniadau am y Gymraeg, rôl iaith yng Nghymru’r dyfodol (a Chymru wledig yn enwedig), a’i chydberthynas gydag arfer artistig.
Bydd Dylan yn rhannu myfyrdodau a chnewyllyn ei waith newydd, sy’n deillio o gyfres ddiweddar o ddigwyddiadau ar Blatfform 2 gyda’r artistiaid Llinos Anwyl, Jenny Cashmore, Bob Evans, fin Jordão, Esyllt Angharad Lewis, Marva Jackson Lord, Nia Morais, Rowan O’Neill a Gwenllian Spink, a hefyd cyhoeddiad sy’n dogfennu’r rownd yma o raglen Pegwn. Dros gyfnod o fis, plymiodd y grŵp i’r pleserau, a’r tensiynau, cymhleth a chlymog o weithio a chwarae gyda ieithoedd niferus Cymru, gan arbrofi i weld pa ffyrdd newydd o feddwl a chydweithio allai godi o ofod amlieithog hylifol, lle nad oes cyfieithu uniongyrchol na chwaith ddisgwyliad y bydd pawb o reidrwydd ar yr un donfedd ieithyddol.
Artist sy’n byw yn y Fenni yw George Hampton Wale. Cefndir mewn celfyddydau gweledol, symudiad, dylunio a chreu sydd ganddynt, ac mae eu harfer yn archwilio themâu lle, perthyn, a hunaniaeth gwiar. Gyda phrofiad mewn creu propiau, dylunio gwisgoedd, a chreu prosthetig, datblygodd George arbenigedd mewn creu gwisgoedd ar raddfa fawr dros gyfnod o flynyddoedd, gan weithio fel artist gwisgoedd ar brosiectau fel “Evening-Length Performance” gan James Bachelor, ac “eco-co-location” gan Corin Sworn a Claricia Parinussa.
Bydd George yn cyflwyno eu harfer ac yn trafod rhywfaint ar eu gwaith diweddar, a ddatblygwyd yn ystod Preswylfa UNITe Jerwood g39 yng Nghaerdydd, lle buon nhw’n creu cerflunwaith gwynt dawnsio graddfa fawr, sy’n cyfeirio at baradocs y corff fel rhywbeth sydd y tu mewn, a’r tu allan, i’n rheolaeth ar yr un pryd. Yn dilyn y breswylfa yma, mae George bellach yn archwilio potensial perfformiadol cerflunwaith drwy ddawns a symudiad, a byddwn ni’n clywed mwy am ddatblygiad y gwaith hwn.