Back to All Events

Yr Hen Ysgol: Criw Celf


  • Yr Hen Ysgol Heol Aberhonddu Crug Hywel NP8 1DG (map)

Criw Celf De Powys

Hawlfraint: Sion Marshall Waters, a’r artist Jenny Cashmore

Hawlfraint: Sion Marshall Waters, a’r artist Jenny Cashmore

Dydd Mawrth 26 - Dydd Sadwrn 30 Hydref 2021 (hanner tymor yr Hydref)

Oed 15 – 18

Mae Criw Celf de Powys yn gwahodd pobl ifanc 15 – 18 mlwydd oed i gyfres o weithdai dan arweiniad artistiaid i’w cynnal yn Peak Cymru, Crug Hywel.*

Roedd y rhai a fu’n cymryd rhan yn gweithio ochr yn ochr ag amrywiaeth o artistiaid cyfoes, gan arwain at arddangosfa undydd i ddangos y gwaith a gafodd ei greu yn ystod yr wythnos.

Roedd cyfres hydrefol Criw Celf yn archwilio ‘Offer Creu’ artistiaid. Roedd ystyriaeth o’r corff, gwrthrychau, tirwedd, iaith, llafaredd, gofod, symud, lle, deunydd: sut mae’r artist yn ystyried y meysydd hyn er mwyn creu celf trwy eu defnyddio fel offer ar gyfer creu?

Bu ystod o ddisgyblaethau yn cael eu trafod yn ystod y gweithdai:

Darlunio a Phaentio/Cerflunio/Argraffu/Ffotograffiaeth/Cynllunio/Ffilm/Dylunio/Serameg/Ysgrifennu Creadigol

Roedd hwn yn gyfle i ddysgu medrau newydd, a rhoi cynnig ar gyfryngau newydd, cwrdd â rhai o’r un oedran ac anian, ac archwilio ystyr beth yw bod yn artist.  

Bydd rhagor o Criw Celf yn y flwyddyn newydd - gwyliwch y gofod…

CY.png
CriwCelf-A5Flyer-Autumn2021-1-2.png
Previous
Previous
9 July

ululations

Next
Next
3 November

Yr Hen Ysgol: Cyfle Creu Crochenwaith