Back to All Events

Grŵp Crochenwaith Yr Hydref


  • The Old School Brecon Road NP8 1DG Wales (map)

Sesiwn Grochenwaith gyda Phobl Ifanc yn Yr Hen Ysgol

Rydym wrth ein boddau i rannu cyfres newydd o sesiynau crochenwaith i drigolion lleol dros yr Hydref. Yn dilyn cyfres o sesiynau blasu wedi’u harwain gan yr artist Lucy Dickson, rydym yn cynnig y cyfle i ddeg o gyfranogwyr i fynychu cwrs wyth wythnos gyda’r nos yn ystod mis Medi.  

Yn y sesiynau, bydd y cyfranogwyr yn dysgu technegau crochenwaith ac yn meithrin dealltwriaeth am offer a deunyddiau mewn amgylchedd ymlaciol a hwyliog. Dyma’r cwrs perffaith i ddechreuwyr, a hefyd i bobl sydd â rhywfaint o ddealltwriaeth o grochenwaith, er mwyn profi rhywbeth newydd a chreadigol dros yr haf. Bydd cyfle i bob cyfranogwr gynllunio a chreu prosiect gan ddefnyddio’r sgiliau maen nhw wedi’u datblygu, fel adeiladu â llaw, dulliau addurno, a dylunio arwyneb.

Bydd y sesiynau’n rhedeg bob Nos Iau am wyth wythnos o 29 Medi – 17 Tachwedd, rhwng 6-8pm.

Mae’r cwrs am ddim, caiff yr holl ddeunyddiau eu darparu a chaiff y gwaith ei danio ar y safle gan dîm Peak. Gan bod niferoedd yn gyfyngedig, byddwn yn blaenoriaethu’r sawl sy’n ymrwymo i gymryd rhan ym mhob sesiwn.

Er mwyn cadw lle, llenwch y ffurflen fan hyn ac os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch â Lucy drwy ebostio lucy@peak.cymru

Caiff y rhaglen hon ei chefnogi gan Gronfa Gymunedol y Loteri Cenedlaethol.

Previous
Previous
1 September

Pethe Platfform 2 Medi - Gweithdy gyda Lucy A. Sames