Back to All Events

Yr Hen Ysgol: Cyfle Creu Crochenwaith


  • Yr Hen Ysgol Heol Aberhonddu Crug Hywel NP8 1DG (map)
Criw Celf 2020, young people's creations from workshop with @lucy__dickson , glazed and fired by Potter Martin Craddock

Criw Celf 2020, young people's creations from workshop with @lucy__dickson , glazed and fired by Potter Martin Craddock

Ar ôl gorfod cau Yr Hen Ysgol yn sgil cyfyngiadau Covid-19 a chymryd y cyfle i adnewyddu ein cegin a’n hadnoddau crochenwaith, ni’n gyffrous iawn i groesawu chi nôl i’r Hen Ysgol yr Hydref hwn.

Ymunwch â ni ar Ddyddiau Mercher rhwng 5-7pm y gaeaf hwn i roi tro ar sesiynau crochenwaith rhad ac am ddim gyda’r artist serameg Lucy Dickson, gyda chymorth Sarah Mckay. Rydym yn cynnal dau fath o sesiwn blasu: Crochenwaith Pobl Ifanc (16-25 oed) a grŵp Trigolion Lleol, i deuluoedd a phobl o bob oed.

Does dim angen profiad blaenorol - dyma ofod hamddenol, hwyliog i ddysgu sgiliau newydd, ac rydym yn awyddus i wahodd pobl a all fod wedi wynebu anhawsterau wrth gael mynediad at grwpiau creadigol, a fyddai’n gwerthfawrogi awyrgylch anffurfiol a digynnwrf. Mae’r holl sesiynau yn rhad ac am ddim i’w mynychu ac yn cynnwys yr holl ddeunyddiau.


Sesiynau Crochenwaith i Bobl Ifanc

Dydd Mercher, 10 Tachwedd, 5-7pm (8 cyfranogwr) Dydd Mercher, 17 Tachwedd, 5-7pm (8 cyfranogwr)

Ein canllaw ar gyfer diffinio pobl ifanc yw’r rheiny rhwng 16 - 25, ond os ydych chi’n hŷn, cysylltwch gyda rachel@peak.cymru.

Sesiynau Crochenwaith I Drigolion Lleol

Dydd Mercher, 24 Tachwedd 5-7pm (8 cyfranogwr) Dydd Mercher, 1 Rhagfyr 5-7pm (8 cyfranogwr) Dydd Mercher 8 Rhagfyr 5-7pm (8 cyfranogwr)

Ry’n ni eisiau blaenoriaethu trigolion lleol sy’n byw o fewn 5 milltir i’r Hen Ysgol fel rhan o’n hymrwymiad i sicrhau fod Yr Hen Ysgol yn tyfu i fod yn adnodd i bobl lleol ar gyfer digwyddiadau cymunedol a gweithgarwch celfyddydol. Cysylltwch â ni os ydych chi’n byw tu hwnt i’r ardal ac yn awyddus i fynychu.

Lleoliad + Mynediad i’r Hen Ysgol

Caiff pob sesiwn eu cynnal yn Yr Hen Ysgol, Heol Aberhonddu, Crug Hywel, Powys, NP8 1DG. Lleolir Peak ar Heol Aberhonddu, y prif A40, rhwng Y Fenni ac Aberhonddu. Ceir llefydd parcio cyfyngedig ar y safle ar gyfer oddeutu 2 gar. Mae llefydd parcio talu ac arddangos ar gael yng Nghrug Hywel. Gyda’r nos ac ar benwythnosau, mae parcio ar gael ar dir Ysgol Uwchradd Crug Hywel ac Everest Drive. Ceir gorffwysfan fawr ychydig fetrau o’n hadeilad ni, gyferbyn â’r ysgol gynradd.

Mae ein stiwdio ar y llawr gwaelod, gyda mynedfa gwastad i gefn yr adeilad. Ceir tŷ bach hawdd i’w gyrraedd. Os hoffech drafod gydag aelod o staff am eich ymweliad o flaen llaw, cysylltwch â ni a byddwn yn falch o gael ateb eich cwestiynau.

Previous
Previous
25 October

Yr Hen Ysgol: Criw Celf

Next
Next
7 June

Yr Hen Ysgol: Criw Celf