‘Gadewch i ni wynebu’r dyfodol’ meddai maniffesto enwog. Ond sut, yn union, ar unrhyw adeg benodol, mae modd gwneud hynny?’
Yn ei draethawd ‘Cerdded am yn ôl tua’r dyfodol’ hola Raymond Williams i ni sut mae modd i ni edrych tua’r dyfodol ac ar yr un pryd fod yn rhan o anghenion y presennol. Mae’n ein gwahodd i feddwl ynghylch iaith y gwaith hwn: ‘faint o eiriau ydym ni’n eu defnyddio i ddiffinio’r bwriad i gael perthynas â’r gorffennol: adferiad, adsefydliad, ail-adeiladu.’
Y Mis mai hwn, mae Peak yn darparu llety ar y cyd gyda thri o grwpiau darllen ar-lein gyda Dr Kirsti Bohata, Kandace Siobhan Walker ac Esyllt Lewis, fel porth i’n rhaglen Mae Diwylliant yn Gyffredin, gan nodi canrif ers geni’r damcaniaethwr diwylliannol, y sosialydd a’r addysgwr Raymond Williams a aned ym mhentref Pandy yn y Mynyddoedd Duon ym 1921. Gyda’n gilydd gobeithiwn archwilio strategaethau ar y cyd ar gyfer meithrin ymateb at y dyfodol, yn deillio o weithiau Williams a llu o weithiau ysgrifenwyr, ymgyrchwyr a beirdd eraill a ddewiswyd gan hwyluswyr y grwpiau darllen.
Grwpiau darllen
Between Country and City
Mercher 12fed Mai, 5.30–7pm
Kirsti Bohata, Athro’r Saesneg, cyd-Gyfarwyddwr CREW, y Ganolfan Ymchwil i Lenyddiaeth Saesneg a Iaith Cymru(the Centre for Research into the English Literature and Language of Wales).
Mae Kirsti Bohata yn hwyluso grŵp darllen sy’n cyfeirio at y ffyrdd y mae gwaith ysgrifenedig Raymond Williams yn trafod yr heriau sydd ynghlwm â mynd i’r afael â chonsyrn cyfoes, ac argyfyngau, gan drafod ein hymateb a’n cyfrifoldeb i gynefinoedd amgylcheddol, a newid hinsawdd yng nghyd-destun trafodaethau am ddefnyddio tir, cymunedau gwledig a’r berthynas rhwng y wlad a’r ddinas.
Bydd y grŵp yn canolbwyntio ar ddau set o ddarlleniadau, gyda thraethawd Raymond Williams ‘Between Country and City’ yn darparu’r canolbwynt ar gyfer y naill a’r llall. Mae’r set gyntaf yn ein gwahodd i ddarllen y traethawd The Evolution of Extinction Rebellion gan Matthew Taylor yn ogystal â chyfweliad gyda Dr. Hope Jennings sydd â’r enw Margaret Atwood on “Everything Change” vs. “Climate Change” a How Everything Can Change, sef trafodaeth o derm Margaret Atwood ‘newid popeth’; imperialaeth ac hefyd, yr anthropocene ffeministaidd. Mae’r ail set yn gwahodd myfyrdodau ar y trafodaethau tanbaid ynghylch ail-wylltio a Chymru, defnyddio delweddau cyfoes, a darn byr o nofel Raymond Williams Border Country, a pharagraff byr o’i draethawd ‘Welsh Culture’ a’r erthygl Rewilding Britain’s Rainforest gan George Monbiot, sy’n argymell bod angen i ni fynd i’r afael â buddiannau breintiedig er mwyn adfer ein ecosustemau briwedig.
Dreaming as Praxis
Mercher 19eg Mai, 5:30pm–7pm
Kandace Siobhan Walker, awdur a chrëwr ffilm o Fannau Brycheiniog a llefydd eraill.
Wedi ei ysbrydoli gan syniad Raymond Williams o ‘sosialaeth wedi ei rannu’, bydd yr awdur a’r crëwr ffilmiau Kandace Siobhan Walker yn hwyluso grŵp darllen er mwyn ystyried yr angen i weithio ar y cyd, dychymyg a breuddwydion a’u pwysigrwydd i’r ymdrech radical a chreu newid.
Y darlleniad cyntaf fydd cyfweliad gyda Ruth Wilson Gilmore, daearyddwr a dilëwr carchardai o’r UDA, sy’n ein gwahodd i holi cwestiwn ynghylch a yw hi’n bosib i ni gael byd heb garchardai (a heddlu). Bydd yr ail ddarlleniad yn gyfweliad gyda Poka Laenui, un o hynafiaid Hawaii, sy’n cyflwyno dulliau cynhyrchiol o ymwneud â’r gorffennol. Bydd y trydydd darlleniad o araith gan yr athronydd a’r anarchydd o’r UDA Murray Bookchin yn 1978, sydd o bosib yn nes yn wleidyddol at draethodau Williams yn The Year 2000 a Resources of Hope. Bydd y “darlleniad” olaf awr o hyd yn gwylio fideo YouTube lle mae gwahanol grwpiau gwleidyddol a gweithredol yn trafod realiti’r Dêl Werdd Newydd; gyda’r fideo yn dangos sut y byddai’r newidiadau a argymhellir yn trawsnewid yn radical tref lan môr ffuglennol yn y gogledd.
Mae’r darnau darllen hyn wedi eu dewis er mwyn dangos y dynesiadau amrywiol iawn sydd gan bobl o ran ystyried gweithio tuag at newidiadau radical a thrawsnewid y byd yr ydym yn byw ynddo, gan ddysgu o gysylltiadau rhwng materion amhosib, breuddwydion a newid diriaethol – gan gydnabod yr angen i freuddwydio yn wyllt.
Mae'r coed yn pydru \ Just Keep Scrolling
Mercher 26ain Mai, 5:30pm–7pm
Esyllt Angharad Lewis, artist, cyfieithydd a chyd-olygydd mwnwgl ac Y Stamp.
Bydd Esyllt Angharad Lewis yn hwyluso grŵp darllen mewn ffordd a fydd wedi ei hysbysu gan ei phrofiad yn traddodi darlith wedi ei pherfformio gyda Pegwn – y grŵp o artistiaid, awduron a meddylwyr sydd wedi dod ynghyd o gwmpas dyfodol y Gymraeg ac yn ystyried y tensiwn, a’r potensial sy’n bodoli rhwng gwahanol haenau iaith mewn cyfieithiad.
Mae Esyllt wedi cynnig delwedd ar gyfer y grŵp darllen. Wedi ei lunio gyda’r bwriad o’i ddefnyddio trwy instagram, mae’r Saesneg yn wahoddiad i edrych y tu hwnt i natur y neges Gymraeg a pharhau i lowcio. Fodd bynnag, does dim modd i siaradwyr Cymraeg osgoi pwysau “mae’r coed yn pydru”. Gan drin y Gymraeg bron fel çôd, gyda’r geiriau yn llunio cyswllt rhwng bodolaeth/difodiant y Cymru a difodiant byd natur.
Sut i archebu:
Mae’r grwpiau darllen ar-lein, yn rhad ac am ddim ac ag uchafswm o 10 person yn cymryd rhan. Er mwyn archebu lle e-bostiwch louise@peak.cymru, gan nodi pa grŵp darllen yr hoffech ymuno ag e. Fe wnawn ni wedyn e-bostio’r deunyddiau darllen atoch chi, er mwyn i chi ddarllen yn eich pwysau cyn cyfarfod y grŵp darllen. Bydd y deunydd darllen yn cael ei ddarparu’n gyhoeddus wedi pob cyfarfod ar y gyfer y rheini nad oedd modd iddynt fynychu sesiynau’r grwpiau darllen.
Ynghylch y llun hwn:
Mae’r cerddor a’r artist Emma Damon Thomas wedi llunio cyfres o weithiau celf yn ymateb i raglen Mae diwylliant yn rhywbeth bob dydd. Mae Build yn archwilio canfyddiadau amrywiol o amser a newid trwy’r amser daearegol a gynrychiolir gan y cerrig sy’n sefyll yn nhirwedd Swydd Faesyfed. Yn ymddangosiadol ddi-symud, ond yn newid yn barhaus, mae Emma yn eu gosod fel pwyntiau tanio, rhyw fath o ‘aciwbigo’r ddaear’, a safleoedd ar gyfer rhyddhau, meddalu ac ymestyn allan.