🍎 CRIW CELF - After Ysgol 🍎
11-14 oed
Ymunwch â ni bob Dydd Mawrth, 7 Mehefin - 5 Gorffennaf
(4:30pm - 6:30pm)
Ni’n dweud hwrê bod y Gwanwyn a’r Haf yma o’r diwedd! Yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf, bydd Peak yn cynnal cyfres arall o Criw Celf! Y tro hwn rydym yn cynnig pum gweithdy ar ôl ysgol ar gyfer pobl ifanc rhwng 11-14 oed ar Ddyddiau Mawth, ac wythnos o ysgol gelf i'r rheiny sy’n 15-19 oed ym mis Mehefin a Gorffennaf, oll wedi ei harwain gan artistiaid proffesiynol arbennig.
Ymunwch â ni bob Dydd Mawrth am 5 wythnos yn ein Stiwdio braf ac agored yn Yr Hen Ysgol yng Nghrughywel. Byddwch yn canolbwyntio ar greu gyda ◌ Serameg ◌ Arlunio ◌ Creu Zines ◌ Paentio + chreu ein pigmentau ein hunain! Felly os chi’n mwynhau creu pethau gyda’ch dwylo, chwarae, a chwrdd â ffrindiau newydd, dyma’r cyfle i chi!
Cliciwch yma i archebu lle! Neu ebostiwch gwenllian@peak.cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau..
Mwy o fanylion:
Talwch beth allwch chi hyd at £5 y sesiwn neu £25 am y cwrs llawn (sy’n cynnwys yr holl ddeunyddiau). Gellir hepgor ffïoedd y cwrs os oes angen ac mae bwrsariaethau teithio hefyd ar gael. Rhowch wybod i ni yn y ffurflen archebu os fyddai hyn yn ddefnyddiol.
Mae blaenoriaeth yn cael ei roi i‘r rheiny sy’n byw a / neu’n mynd i'r ysgol yn Ne Powys, yn cael eu rhoi ar sail cyntaf i'r felin. Lle bo’n bosib, rydym yn gofyn i chi ymuno â’r rhaglen lawn i wneud y mwyaf o’r sesiynau!