Back to All Events

ululations

ululations

Darllen - pigwch copi o’r cyhoeddiad print yn Platfform 2 
Gwrando - darllediad byw fan hyn am 18:30, 9/7/2021 

Mae ululations yn gyhoeddiad, mewn print a sain, o sgwennu newydd sbon gan Kandace Siobhan Walker, Nia Morais a Fin Jordão, gyda chyfieithiadau creadigol gan Elan Grug Muse, wedi ei gynhyrchu gan Peak Cymru gyda Freya Dooley a Mark El-khatib. 

Mae’r llyfryn yn ymateb aml-leisiol i Creating dangerously (we-I insist!) gan Alberta Whittle, trioleg o ffilmiau sy’n cael ei arddangos yn ystod haf 2021 ar Blatfform 2. Rydym yn hynod falch i gyflwyno’r gasgliad hon o sgwennu newydd, sy’n cwmpasu barddoniaeth, ffuglen a’r ysgrif — a phob darn yn cymuno â’r drioleg o ffilmiau, gan lynu at ei naws bolyffonig.

Mae dilyniant o gerddi newydd gan Kandace Siobhan Walker, sgwennwr ac artist ffilm a fagwyd ym Mannau Brycheiniog, yn ymdrin â sensitifrwydd a gonestrwydd gyda themâu’r ffilmiau o brotest, llawenydd a dicter – wastad mewn ‘Cydsafiad gyda’r beirdd cwsg sy’n alltud o fro breuddwydion.’

Stori fer Gymraeg wreiddiol cyfrannodd y sgwennwr o Gaerdydd, Nia Morais, sydd ran amlaf wedi sgwennu ar gyfer theatr a ffuglen. Mae ‘Ar goll’ yn orlawn â delweddaeth swynol, cain o golled a hiraeth.

Mae Fin Jordão — sgwennwr, biolegydd creadigol ac addysgwr ar ecoleg — wedi cynhyrchu ysgrif aml-haenog wedi ei leoli yng ngherryntau chwyldroadol Aber Dyffryn Dyfi, gan gymryd naratifs dyfrllyd ffilmiau Alberta Whittle i gyfeiriadau annisgwyl, cynhyrchiol. 

Ac mae Elan Grug Muse, bardd a chyd-sylfaenydd Y Stamp, dod â phob math o haenau newydd i’r gwaith gyda’i chyfieithiadau creadigol o destunau gwreiddiol Kandace, Fin a Nia.

Mae Fin Jordāo yn sgwennwr, biolegydd creadigol ac addysgwr ar ecoleg gyda’r Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth. Yn ddiweddar cyhoeddodd Fin ysgrif gyda Cynfas, cylchgrawn digidol Amgueddfa Cymru, yn rhan o’u rhifyn ar edrych queer.  - Llun: Ming De Nasty 

Mae Nia Morais yn sgwennwr ddwy-ieithog o dras Cymreig a Cape Verdean, sy’n ymdrin yn llawer o’i gwaith â hunaniaeth a goroesi. Ers graddio o Brifysgol Caerdydd yn 2020 gyda gradd Feistr mewn Sgwennu Creadigol, mae wedi rhyddhau drama radio, Crafangau, gyda’r Sherman, a’r ffilm ddawns-farddoniaeth Gweddi am Frws Gwallt gyda Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. 

Mae Grug Muse yn sgwennwr o Ddyffryn Nantlle. Mae hi'n gweithio ar draws sawl ffurf, gan gynnwys ysgrifau, barddoniaeth, a chyfieithu, a roedd hi’n un o sylfaenwyr Y Stamp. Cyhoeddwyd ei chyfrol gyntaf, Ar Ddisberod, yn 2017. 

 Mae Kandace Siobhan Walker yn sgwennwr a gwneuthurwr ffilm. Mae ei sgwennu wedi ei gyhoeddi yn The White Review, the Guardian and The Good Journal. Cafodd ei ffilm fer, Last Days of the Girl’s Kingdom, ei gynhyrchu gan yr ICA a DAZED, a’i ddangos ar Random Acts ar Channel 4 yn 2019. Mae’n enillydd Eric Gregory Award 2021, ac mae ei phamffled gyntaf o gerddi yn dod allan ar Bad Betty Press yn 2022.

Dylunydd yw Mark El-khatib sy’n byw yn Llundain, lle mae’n rhedeg stiwdio gydweithredol sy’n datblygu cyhoeddiadau, deunydd print, gwefannau, hunaniaethau gweledol, a gwaith graffeg ar gyfer arddangosfeydd ac amgylcheddau amrywiol. Cwblhaodd MA yn y Royal College of Art yn 2010, ac mae wedi bod yn bartner yn stiwdio Sara De Bondt. Yn ogystal â’i waith llawrydd, Mark oedd cyfarwyddwr celf cylchgrawn Tate Etc. (2011-16).

Mae Freya Dooley yn artist sy’n byw yng Nghaerdydd. Mae’n gweithio ar draws cyfryngau gan gynnwys sgwennu, sain, delweddau symudol a gwaith perfformio. Mae prosiectau diweddar yn cynnwys: Temporary Commons: Jerwood Solo Presentations yn Jerwood Arts, Llundain (2021) a Scenes from Between the Mountains and the Sea, Beppu Project, Siapan (2020).

Previous
Previous
18 June

Art Night a Peak yn cyflwyno: Creating dangerously (we-I insist!), gan Alberta Whittle

Next
Next
25 October

Yr Hen Ysgol: Criw Celf