Back to All Events

Pethe Platfform 2 Medi - Gweithdy gyda Lucy A. Sames

  • Platfform 2 Gorsaf Drenau'r Fenni Abergavenny, NP7 5HY (map)

Disgrifiad Llun: Llun wedi’i gropio’n agos o ochr gwyneb Lucy yn dangos gwallt byr, gwlyb wedi’i gribo’n ôl a phlwg clust oren fflwroleuol yn ei chlust, mae’r llun wedi ei oleuo gyda golau glas llachar dwys ac mae wal dywyll wedi’i theilio yn y cefndir.

Yn y digwyddiad rhannu nesaf ar Blatfform 2, bydd y curadur, yr ymchwilydd a’r addysgwr Lucy A. Sames yn ymuno â ni.

Bydd Lucy’n cynnal gweithdy am ddŵr, ffynhonnau, dewiniaeth, cyrff a gormodedd, i archwilio ffyrdd o gyd-feddwl yn ddychmygus am sut gallai dŵr fodelu cymdeithasoldeb, neu undod. Bydd y sesiwn yn cael ei harwain gan syniadau am ffeministiaeth ac arddeliad cwîar, a bydd gwahoddiad i gymryd rhan mewn nifer o weithgareddau archwiliadol ar y cyd, gan gynnwys trafod, cyd-ddarllen, ac arlunio casgliadol.

Digwyddiad anffurfiol fydd hwn, ac mae croeso i bawb gymryd rhan a chyfrannu os hoffen nhw, a sut bynnag hoffen nhw. Fydd dim gofyniad i ddarllen na pharatoi, ac ni fydd disgwyl i chi fod â gwybodaeth flaenorol am y syniadau y byddwn ni’n eu harchwilio. Mae croeso i bawb.

Curadur, ymchwilydd ac addysgwr sy’n byw yn Goetre, i’r de o’r Fenni, yw Lucy A. Sames. Yn ddiweddar, enillodd Ddoethuriaeth mewn arfer curadurol am syniadau o ‘ormodedd hylifol’ ffeministaidd ôl-ddynol o Brifysgol Northumbria yn Newcastle. Mae’n darlithio’r Diwylliannau Gweledol yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain ac ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr ym Mryste, a Chelf a Seicoleg ym Mhrifysgol Caerwrangon. Mae’n guradur ac yn gynullydd Wet Rest; yn aelod craidd o Liquidity Cohort ym MARs, Goldsmiths; yn aelod o Uned Ymchwil Morffoleg Gymdeithasol yn yr Adran Anthropoleg ac Ysgol Celf Slade yng Ngholeg Prifysgol Llundain (UCL); ac mae wedi bod yn Gyd-gyfarwyddwr ac yn Gyd-guradur yn Res, Llundain.


Tocynnau am ddim ar gael fan hyn!

 

Hygyrchedd yr Orsaf: Dylech nodi bod mynediad i Blatfform 2 dros bont gerdded i deithwyr, sydd â grisiau (mae 24 o risiau i fyny, a 21 o risiau i lawr). Does dim lifft. Er mwyn cael mynediad gwastad at Blatfform 2 gyda chymorth staff Trafnidiaeth Cymru, mae modd gofyn am gymorth gan y Swyddfa Docynnau ar Blatfform 1 yn ystod yr oriau agor, a gan griw’r trenau pan fydd y swyddfa ar gau. Mae tŷ bach hygyrch yng nghaffi’r orsaf ar Blatfform 1. Mae wyth lle parcio hygyrch ar gyfer deiliaid bathodyn glas. Mae rhagor o wybodaeth am hygyrchedd yr orsaf yma.

Previous
Previous
28 July

LUMIN + Marva Jackson Lord

Next
Next
29 September

Grŵp Crochenwaith Yr Hydref