Drawing by Owen Griffiths
Across 2022 young people and artists have met at Platfform 2, Abergavenny Train Station, to think about languages and futures in Cymru*. This Autumn, a small group of Casgleb collaborators are coming together to work across Platfform 2, the Old School and the local landscape, for a small programme of workshops, gatherings and walks. Convened with artist Owen Griffiths, we’ll be joined by new and past Peak collaborators, to reflect on our work together this year and to enable new conversations to emerge. Imagined as a week of gathering and sharing, this collaborative programme delves into the ways of working which have emerged through Casgleb, and we invite you to join us!
Yn ystod 2022 bu pobl ifanc ac artistiaid yn ymgynnull ar Blatfform 2, Gorsaf Drenau’r Fenni, i feddwl am ieithoedd a dyfodolau yng Nghymru. Yr Hydref hwn, bydd grŵp bychan o gydweithwyr Casgleb yn dod at ei gilydd i gydweithio ar Blatfform 2, yn Yr Hen Ysgol, ac o fewn y tirlun lleol, fel rhan o raglen fechan o weithdai, sgyrsiau a theithiau cerdded. Wedi’i hwyluso gan yr artist Owen Griffiths, byddwn yn cael cwmni cydweithwyr o’r gorffennol a rhai sy’n newydd i Peak, i fyfyrio ar ein gwaith gyda’n gilydd eleni ac i alluogi sgyrsiau newydd i ddod i’r amlwg. Bydd y rhaglen gasglebol hon, sydd wedi'i ddychmygu fel wythnos i ddod at ein gilydd a rhannu, yn cofleidio’r ffyrdd o weithio sydd wedi eu saernïo drwy Casgleb, ac mae gwahoddiad i bawb i ymuno!
Deep Time Walk and Casting Workshop with Chloe Winder and Alan Bowring, for Young People 18 - 25
Saturday 22 October, 11am - 4pm, Platfform 2
Join Alan Bowring, the Geologist for the Brecon Beacons National Park, and artist Chloe Winder, for a walk and workshop exploring time, landscape and memory. We’ll take a slow, 2 mile circular route between Abergavenny Station and the river Usk, collecting objects as we walk for a plaster-cast workshop.
Ymunwch ag Alan Bowring, Daearegydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac artist Chloe Winder am daith gerdded araf a gweithdy castio lle byddwn yn archwilio amser, tirwedd a chôf. Byddwn yn dilyn llwybr cylchol 2 filltir o/i Gorsaf Drenau’r Fenni ar hyd gorlifdir yr Wysg wrth casglu wrthrychau i’w castio yn y gweithdy plaster.
This Deep Time Walk & Casting Workshop was proposed by Chloe Winder, following her participation in Platfform Haf, a young people’s programme on which Alan Bowring shared a talk on landscape, geology and time. Peak will reimburse travel and food expenses for all who join.
Rhaniad gwaith-ar-waith Pegwn
Dydd Mawrth 25 Hydref
Tuesday 25 October
Platfform 2 + Online - from Dylan Huw, Llinos Anwyl and Talulah Thomas
Fel rhan o Pegwn, bydd Dylan Huw, Llinos Anwyl a Talulah Thomas — celf-sgwennwyr dwyieithog yn eu hugeiniau sy’n rhannu diddordeb yn y modd y mae iaith yn croesdorri â strwythurau pŵer, tirlun a phrofiadau cwiar —yn creu gwaith newydd gyda’i gilydd ar Blatfform 2. Bydd y gwaith yn ddatblygiad o’r syniadau a archwiliwyd fel rhan o raglen wanwyn Pegwn oedd yn arbrofi â phroses ymchwil gasglebol amlieithog chwareus, gan gyd-ddychmygu posibiliadau iaith o safle penodol y Stafell Ddarllen.
As part of Pegwn, Dylan Huw, Llinos Anwyl and Talulah Thomas — bilingual writer-artists in their twenties who share an interest in how language intersects with power structures, landscape and queerness — will be creating new work together at Platfform 2. The work will expand upon ideas explored as part of the Pegwn spring programme’s playfully multilingual collective research process, while being anchored in the site-specificity of Abergavenny Train Station.
Platfform 2 Talks - Owen Griffiths in Conversation with Idle Women
Tuesday 25 October, 5:30pm - 7pm, Platfform 2
For our next monthly event at Platfform 2, artist Owen Griffiths will be in conversation with Rachel Anderson and Cis O'Boyle from Idle Women, an arts, environment and social justice collaboration.
Ar gyfer ein digwyddiad misol nesaf yn Platfform 2, bydd yr artist Owen Griffiths yn sgwrsio â Rachel Anderson a Cis O'Boyle o Idle Women, sef cydweithrediad chyfiawnder cymdeithasol, celfyddydol ac amgylcheddol.
Zine Making Workshop with Ffion Williams and Felix Stevenson-Davies, For Young People 18 - 25
Wednesday 26 October, 3pm - 4:30pm, Platfform 2
Join artists Ffion Williams and Felix Stevenson-Davies for a zine making workshop which explores how you / we feel about climate change, hope and the future. There will be time for collage, making and discussion. Take home your own zine or add it to our reading room library.
Ymunwch ag artistiaid Ffion Williams a Felix Stevenson-Davies am gweithdy creu zine â fydd yn ystyried eich / ein teimladau ynghylch newid hinsawdd, gobaith ac anobaith. Bydd amser am collage, creu a sgwrsio. Ewch â'ch cylchgrawn eich hun adref gyda chi neu ychwanegwch at ein llyfrgell ystafell ddarllen.
This workshop is imagined and delivered by young people who took part in Platfform Haf as part of Casgleb, a project (re)imagining futures in Wales. Peak will reimburse travel and food expenses for all who join.