Pegwn
English Cymraeg
Casgleb a phlatfform yw Pegwn a gynhelir gan Peak Cymru, i gyd-ddychmygu’r cysyniad o ddyfodolau Cymraeg.
Mewn cyfnod lle mae diwylliant yn cael ei ddofi a’i lyfnhau, a lle mae deuoliaethau gor-syml yn gallu cyfyngu’r hyn sy’n teimlo’n bosib, edrycha Pegwn at y Gymraeg fel gofod o bosibilrwydd a dychymyg, i adeiladu dyfodolau sydd â’r adnoddau i wrthsefyll yr hegemonaidd a’r hierarchaidd. Drwy amlygu twf amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol Cymru, ynghyd â chyfoeth y gwaith sy’n digwydd ar draws a rhwng ieithoedd yma a thu hwnt, mae gweithgareddau Pegwn yn archwilio gallu’r Gymraeg i greu o’r newydd ac i herio’r hyn rydym yn ei etifeddu, a photensial gofodau agored aml-ieithog i feithrin ffyrdd newydd o feddwl ac ymwneud â’n gilydd.
Mae Pegwn wedi tyfu’n araf bach ers Hydref 2020, o ystyried sut all mudiad fel Peak osod agwedd ddychmygus a hyblyg at y Gymraeg fel rhan annatod o’i holl raglennu a’i strwythurau, at gyfres o ddeialogs rhithiol sy’n ofod i artistiaid, sgwennwyr ac eraill i gyd-ystyried y syniadau hyn ac i gyfnewid llwybrau, safbwyntiau a phrofiadau. Yn raddol, mae’r gofod wedi ymledu i wahodd siaradwyr gwadd, i gomisiynu gwaith newydd a llywio cynlluniau curadurol Peak, gan gynnwys cyfres o gomisiynau sgwennu celf Cymraeg yn rhan o raglen Sgyrsiau Cegin y Storm, grwp darllen am gyfieithu a chwarae yn rhan o raglen Cerdded am yn ôl tua’r dyfodol a rhaglen drawsieithog o sgwennu newydd yn ymateb i gyflwyniad Peak o waith Alberta Whittle fel rhan o Art Night yng ngorsaf drenau’r Fenni.
Cydlynir Pegwn gan Dylan Huw, sgwennwr a gweithiwr celfyddydol sy’n byw yng Nghaerdydd, gyda staff Peak Cymru. Am unrhyw ymholiadau ynghylch Pegwn, cysylltwch â dylan@peak.cymru.
Diolch i’r canlynol am gymryd rhan yn sesiynau cyntaf Pegwn:
Llinos Anwyl, Yasmin Begum, Kirsti Bohata, Lindsey Colbourne, Leena Sarah Farhat, Owen Griffiths, Cerys Hafana, Catrin Ellis Jones, Esyllt Angharad Lewis, Abby Poulson, Dafydd Reeves a Gwenllian Spink.