We’re hiring: Co-Director (Young People & Programme)

closing date for applications - 5pm Tuesday 5th March

Peak is now recruiting for a new Co-Director (Young People & Programme). We are looking for someone who can bring dynamic creative leadership to Peak’s programme for Young People (14-30) and co-curate our programmes for artists and intergenerational rural communities, rooted in the context of the Black Mountains. 

Job Title: Co-Director (Young People & Programme)  

Purpose of Job: To provide dynamic creative leadership for Peak’s programme for Young People (14-30); and collaborate with Peak Co-Directors to develop and deliver a creative, cross-disciplinary programme benefiting artists, Young People and intergenerational rural communities, rooted in the context of the Black Mountains. The Co-Director (Young People & Programme) will lead on all Young People’s programmes, co-create and embed non-extractive evaluation frameworks; lead on Peak’s long-term mission to embed YP’s governance at the heart of the organisation; and write and implement a dedicated Young People’s Engagement Strategy, increasing access and opportunities for those facing intersecting barriers to participation. This role has been funded by Paul Hamlyn Foundation and ArtFund.

Contract terms: 3-year contract; 24.5 hours per week (equivalent of 3.5 days)

Start Date: May/June 2024

Salary: £28,000 per annum (based on full-time salary of £40,000 / 35 hours per/wk).  

Location: Minimum two days per week at one of Peak’s physical sites in Abergavenny and Crickhowell. It is a requirement of this role to live within 45 minutes travel of Peak sites, and there is a budget of £1500 to support relocation, if needed. 

Working Pattern: Core days – Tuesday, Wednesday, and Thursday. Some working outside of normal office hours, including evenings and weekends, will be expected.

Reports to: Board of Trustees

Works with: Co-Director Strategy & Programme and Co-Director Operations & Programme; and freelance colleagues and practitioners across our programmes.

A note on our Co-Leadership Model: in Summer 2023 Peak transitioned towards a new Co-Leadership model and we now have a flattened hierarchy across our small team, led by Co-Directors holding dedicated roles across Strategy, Operations and (now) Young People’s work. All three Co-Directors curate, produce and deliver programmes, and contribute to the day-to-day running of the organisation. Melissa Appleton is the Co-Director of Strategy & Programme and Louise Hobson is the Co-Director of Operations & Programme.

How to Apply

Thank you for your interest in working with Peak! To apply, please read through our Job Pack and apply with a CV and letter of application responding to our questions outlined in ‘The Application Process’ before 5pm Tuesday 5th March.

Shortlisted candidates will be interviewed on either Wednesday 20th or Thursday 21st March, at our Old School site in Crickhowell. There will be an interview fee of £250 to contribute to your time, and travel costs (up to £150) will also be reimbursed. We can additionally support access.

If you have any questions about the role, the application process, transferable experience or about Peak, please email Louise Hobson (Co-Director: Operations & Programme) on applications@peak.cymru, who will be happy to arrange a conversation with you.

Swydd newydd: Cyd-Gyfarwyddwr (Pobl Ifanc a Rhaglen)

dyddiad cau ar gyfer ceisiadau - 5pm dydd Mawrth, 5ed o Fawrth

Mae Peak wrthi’n recriwtio Cyd-Gyfarwyddwr (Pobl Ifanc a Rhaglen). Rydyn ni’n chwilio am rywun a all gynnig arweinyddiaeth greadigol ddeinamig i raglen Peak i Bobl Ifanc (14-30 oed) a chyd-guradu ein rhaglenni ar gyfer artistiaid a chymunedau gwledig aml-genhedlaeth, sydd â’u gwreiddiau yng nghyd-destun y Mynyddoedd Duon.

Teitl y Swydd: Cyd-Gyfarwyddwr (Pobl Ifanc a Rhaglen)

Diben y Swydd: Darparu arweinyddiaeth greadigol ddeinamig ar gyfer rhaglen Peak i Bobl Ifanc (14-30); a chydweithio gyda Chyd-Gyfarwyddwyr Peak i ddatblygu a darparu rhaglen greadigol drawsddisgyblaethol sydd o fudd i artistiaid, Pobl Ifanc, a chymunedau gwledig aml-genhedlaeth, sydd â’i gwreiddiau yng nghyd-destun y Mynyddoedd Duon. Bydd y Cyd-gyfarwyddwr (Pobl Ifanc a Rhaglen) yn arwain ar yr holl raglenni Pobl Ifanc, yn cyd-greu ac yn gwreiddio fframweithiau gwerthuso anechdynnol; yn arwain ar genhadaeth hirdymor Peak i wreiddio llywodraethiant Pobl Ifanc yn y sefydliad; ac yn llunio a gweithredu Strategaeth Ymgysylltu â Phobl Ifanc bwrpasol, gan gynyddu mynediad a chyfleoedd i’r rhai sy’n wynebu rhwystrau croestoriadol rhag cyfranogiad. Mae’r swydd wedi’i hariannu gan Sefydliad Paul Hamlyn ac ArtFund.

Telerau’r contract: contract 3 blynedd; 24.5 awr yr wythnos (cyfwerth â 3.5 diwrnod)

Dyddiad Dechrau: Mai/Mehefin 2024

Cyflog: £28,000 y flwyddyn (yn seiliedig ar gyflog llawn amser o £40,000 / 35 awr yr wythnos).

Lleoliad: O leiaf deuddydd yr wythnos yn un o safleoedd corfforol Peak yn y Fenni a Chrughywel. Mae’n ofyniad i’r swydd eich bod yn byw o fewn taith 45 munud i safleoedd Peak, ac mae cyllideb o £1500 i’ch cefnogi i adleoli, os bydd angen. 

Patrwm Gweithio: Diwrnodau craidd – dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau. Bydd disgwyl rhywfaint o weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol, gan gynnwys gweithio ar y penwythnosau.

Yn adrodd i: Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

 Yn gweithio gyda: Cyd-Gyfarwyddwr Strategaeth a Rhaglen a Chyd-Gyfarwyddwr Gweithrediadau a Rhaglen; a chydweithwyr ac ymarferwyr llawrydd ar draws ein rhaglenni.

Nodyn ar ein Model Cyd-Arweinyddiaeth: yn haf 2023, trosglwyddodd Peak at fodel cyd-arweinyddiaeth newydd, ac mae bellach ganddon ni hierarchaeth gwastad ar draws tîm bach, dan arweiniad Cyd-Gyfarwyddwyr sydd â rolau pwrpasol ym meysydd Strategaeth, Gweithrediadau a (nawr) gwaith Pobl Ifanc. Mae’r tri Chyd-Gyfarwyddwr yn curadu, yn cynhyrchu ac yn darparu rhaglenni, ac yn cyfrannu at redeg y sefydliad o ddydd i ddydd. Melissa Appleton yw’r Cyd-Gyfarwyddwr Strategaeth a Rhaglen, a Louise Hobson yw’r Cyd-Gyfarwyddwr Gweithrediadau a Rhaglen.

 Sut i wneud cais

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio gyda Peak! I ymgeisio, darllenwch ein Pecyn Swydd a gwnewch gais gyda CV a llythyr ymgeisio yn ymateb i’r cwestiynau rydyn ni wedi’u nodi yn ‘Y Broses Ymgeisio’ cyn 5pm dydd Mawrth, 5ed o Fawrth.

Bydd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu cyfweld un ai ddydd Mercher 20fed o Fawrth neu ddydd Iau 21ain o Fawrth, ar ein safle yn yr Hen Ysgol yng Nghrughywel. Bydd ffi cyfweliad o £250 i gyfrannu at eich amser, a byddwn yn ad-dalu eich costau teithio (hyd at £150) hefyd. Gallwn gefnogi hygyrchedd yn ogystal.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, y broses ymgeisio, profiad trosglwyddadwy neu am Peak, anfonwch e-bost at Louise Hobson (Cyd-Gyfarwyddwr: Gweithrediadau a Rhaglen) drwy applications@peak.cymru, a fydd yn hapus i drefnu sgwrs gyda chi.