Rural Stiwdio
Are you 14-18? Live in South Powys, Monmouthshire and surrounding areas? Want to explore creative activities and meet artists with a supportive group of young people? Come and join Rural Stiwdio with Peak at the Old School, Crickhowell!
Rural Stiwdio is Peak’s 2025 programme for 14-18s in South Powys, Monmouthshire and surrounding areas. You will come together to learn new skills with artists, go on trips to exhibitions and studios, and make art together through different art forms such as photography, sculpture, writing and textiles.
Ydych chi rhwng 14 a 18 oed? Yn byw yn ne Powys, Sir Fynwy neu’r cyffiniau? Eisiau bod yn rhan o grŵp cefnogol o bobl ifanc sy’n cwrdd ag artistiaid ac yn archwilio gweithgareddau creadigol? Ymunwch â Rural Stiwdio gyda Peak yn yr Hen Ysgol, Crughywel!
Rural Stiwdio yw rhaglen 2025 Peak ar gyfer pobl rhwng 14 a 18 oed yn ne Powys, Sir Fynwy a’r cyffiniau. Byddwch yn dod ynghyd i ddysgu sgiliau newydd gydag artistiaid, mynd ar deithiau i arddangosfeydd a stiwdios, ac yn creu celf gyda’ch gilydd drwy wahanol ffurfiau ar gelfyddyd, fel ffotograffiaeth, cerflunwaith, tecstilau, ysgrifennu a pherfformio.
What you can expect:
Meet and work together with other young people
Take part in creative workshops with artists
Go on trips to visit exhibitions and artist studios
Develop creative thinking and a range of art techniques
Have space and time to develop your own creative ideas
Who you are:
Aged 14-18, and living in South Powys, Monmouthshire and surrounding areas
Interested in learning with artists working in a range of art forms
Available to come to sessions regularly
Keen to try new things and work with other people
No experience of art programmes or technical skills are required
Dates & Location:
Every other Saturday 10am-2pm, running May 10th – July 19th 2025
Additional 3-day May half term programme
Last Wednesday of the month 4-6pm drop in
Every session will take place at The Old School, Brecon Road, Crickhowell, Powys, NP8 1DG apart from trips which you will be told about in advance.
Questions?
If you have any questions, please email Ellen@peak.cymru or call Ellen on 07940542611.
How to join:
Apply now to take part in Rural Stiwdio by completing this booking form:
Ellen will be in touch to confirm details of the different workshops.
Rural Stiwdio is funded by The Ashley Family Foundation.
Beth i’w ddisgwyl:
Cwrdd a chydweithio gyda phobl ifanc eraill
Cymryd rhan mewn gweithdai creadigol cyffrous gydag artistiaid
Mynd ar deithiau i ymweld ag arddangosfeydd a stiwdios artistiaid
Arbrofi gydag ystod eang o arddulliau a ffurfiau ar gelfyddyd
Cael amser a lle i ddatblygu’ch syniadau creadigol chi
Pwy ydych chi:
Rhwng 14 a 18 oed, yn byw yn ne Powys, Sir Fynwy a’r cyffiniau
Diddordeb mewn dysgu gydag artistiaid gan weithio ar draws gwahanol ffurfiau ar gelfyddyd
Ar gael i ddod i sesiynau’n rheolaidd
Awyddus i roi cynnig ar bethau newydd ac i weithio gyda phobl eraill
Does dim angen dim profiad o raglenni celf na sgiliau technego
Dyddiadau a Lleoliad
Bob yn ail Sadwrn, 10am-2pm, rhwng 10 Mai a 19 Gorffennaf 2025
Bydd rhaglen dridiau yn ystod hanner tymor mis Mai
Sesiwn alw heibio 4-6pm brynhawn Mercher ola’r mis
Bydd pob sesiwn yn cael ei chynnal yn yr Hen Ysgol, Heol Aberhonddu, Crughywel, Powys, NP8 1DG, heblaw am y teithiau, a byddwch yn cael gwybod am y rhain ymlaen llaw.
Cwestiynau?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at Ellen@peak.cymru neu ffoniwch Ellen drwy 07940542611.
Sut i ymuno:
Gwnewch gais nawr i gymryd rhan yn Rural Stiwdio drwy lenwi’r ffurflen archebu yma:
Bydd Ellen yn cysylltu â chi gyda manylion y gwahanol weithdai.
Ariennir Rural Stiwdio gan Sefydliad y Teulu Ashley.