We’re hiring: Co-Director: Operations & Programme (Maternity Leave)  

Application closing date - 5pm Thursday 14th March

Peak is now recruiting a maternity cover role for Co-Director (Operations & Programme) for a fixed term 1 year contract (May 2024 – May 2025).  

Job Title: Co-Director: Operations & Programme (Maternity Leave)  

Purpose of Job: One year’s maternity cover to provide leadership for Peak Cymru’s operations, including finance, communications and organisational systems, and work with Peak Cymru Co-Directors to support our a creative, cross-disciplinary programme benefiting artists, Young People (14-30) and intergenerational rural communities, rooted in the context of the Black Mountains.

Contract terms: 1 year contract, 21 hours per week (equivalent to 3 days/week) 

Start Date: May 2024

Salary: £23,100 per annum (based on a full-time salary of £38,500 / 35 hours per week) 

Location: Minimum two days per week at one of Peak’s physical sites in Abergavenny and Crickhowell.    

Working Pattern: Tuesday, Wednesday and Thursday. Some working outside of normal office hours, including evenings and weekends, will be expected.

Reports to: Board of Trustees

Works with: Co-Director Strategy & Programme and Co-Director Young People & Programme; and freelance colleagues and practitioners across our programmes. 

How to Apply

Thank you for your interest in working with Peak! To apply, please read through our Job Pack and apply with a CV and letter of application responding to our questions outlined in ‘The Application Process’ before 5pm Thursday 15th March.

Shortlisted candidates will be interviewed on Thursday 28th March, at our Old School site in Crickhowell. There will be an interview fee of £250 to contribute to your time, and travel costs (up to £150) will also be reimbursed. We can additionally support access.

If you have any questions about the role, the application process, transferable experience or about Peak, please email Louise Hobson (Co-Director: Operations & Programme) on applications@peak.cymru, who will be happy to arrange a conversation with you.

Swydd newydd: Cyd-gyfarwyddwr: Gweithrediadau a Rhaglen (Cyfnod Mamolaeth) 

Dyddiad cau ceisiadau - 5pm, dydd Iau, 14 Mawrth

Mae Peak yn recriwtio ar gyfer swydd cyfnod mamolaeth Cyd-gyfarwyddwr (Gweithrediadau a Rhaglen) am gontract tymor penodol o flwyddyn (Mai 2024 – Mai 2025).  

Teitl y Swydd: Cyd-gyfarwyddwr: Gweithrediadau a Rhaglen (Cyfnod Mamolaeth) 

Diben y Swydd: Blwyddyn o gyfnod mamolaeth i ddarparu arweinyddiaeth ar gyfer gweithrediadau Peak Cymru, gan gynnwys systemau cyllid, cyfathrebu a threfniadol, a gweithio gyda Chyd-Gyfarwyddwyr Peak Cymru i gefnogi ein rhaglen greadigol a thrawsddisgyblaethol ar gyfer artistiaid, Pobl Ifanc (14-30 oed), a chymunedau gwledig aml-genhedlaeth, gyda’i gwreiddiau yng nghyd-destun y Mynyddoedd Duon.

Telerau’r contract: Contract blwyddyn, 21 awr yr wythnos (cyfwerth â 3 diwrnod yr wythnos) 

Dyddiad Dechrau: Mai 2024

Cyflog: £23,100 y flwyddyn (yn seiliedig ar gyflog llawn amser o £38,500 / 35 awr yr wythnos) 

Lleoliad: O leiaf deuddydd yr wythnos yn un o safleoedd corfforol Peak yn y Fenni a Chrughywel.  

Patrwm Gweithio: Dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau. Bydd disgwyl rhywfaint o weithio y tu allan i oriau swyddfa arferol, gan gynnwys gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau.

Yn adrodd i: Bwrdd yr Ymddiriedolwyr

Yn gweithio gyda: Cyd-Gyfarwyddwr Strategaeth a Rhaglen a Chyd-Gyfarwyddwr Pobl Ifanc a Rhaglen; a chydweithwyr ac ymarferwyr llawrydd ar draws ein rhaglenni.

 Sut i wneud cais

Diolch am eich diddordeb mewn gweithio gyda Peak! I ymgeisio, darllenwch ein Pecyn Swydd a gwnewch gais gyda CV a llythyr ymgeisio yn ymateb i’r cwestiynau rydyn ni wedi’u nodi yn ‘Y Broses Ymgeisio’ cyn 5pm dydd Iau, 14 Mawrth.

Bydd yr ymgeiswyr fydd yn cyrraedd y rhestr fer yn cael eu cyfweld ddydd Iau 28 Mawrth ar ein safle yn yr Hen Ysgol yng Nghrughywel. Bydd ffi cyfweliad o £250 i gyfrannu at eich amser, a byddwn yn ad-dalu eich costau teithio (hyd at £150) hefyd. Gallwn gefnogi hygyrchedd yn ogystal.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, y broses ymgeisio, profiad trosglwyddadwy neu am Peak, anfonwch e-bost at Louise Hobson (Cyd-Gyfarwyddwr: Gweithrediadau a Rhaglen) drwy applications@peak.cymru, a fydd yn hapus i drefnu sgwrs gyda chi.