Gweithredu Gwrth-hiliol

English Cymraeg

Reclaim the waterway, llun llonydd o ffilm gan Sadia Pineda Hameed & Beau W Beakhouse, 2021

Cynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth 2022 / 23

Wrth weithio mewn cyd-destunau gwledig, rydyn ni weithiau’n clywed y datganiad ‘dyw hiliaeth ddim yn broblem yn fan hyn’. Ond mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig, a phobl sy’n ymweld ag ardaloedd gwledig, yn profi hiliaeth. Rydyn ni’n gwybod hyn nid yn unig drwy ymchwil sydd wedi’i chyhoeddi, ond yn fwy uniongyrchol oherwydd ein bod wedi dod ar draws ymddygiad hiliol yn ein gwaith. Fel sefydliad sy’n cael arian cyhoeddus, rydyn ni’n croesawu’n cyfrifoldeb i gydnabod a mynd i'r afael â hiliaeth a'i effaith ar y rhai rydyn ni’n gweithio gyda nhw. 

Nod Peak yw cefnogi newid cadarnhaol i’r bobl a’r llefydd lle rydyn ni’n gweithio, gan rannu profiadau byw ac arferion creadigol y rhai sydd bellaf oddi wrth rym. Mae ymdrechu i fod yn wrth-hiliol yn rhan o'n hymrwymiad ehangach i fynd i'r afael ag anghyfiawnder systemig; mae ein gwaith yn canolbwyntio ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig fel y’u diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2015, yn ogystal â’r rhai sy’n wynebu rhwystrau o ran incwm, dosbarth, addysg a lleoliad a’r rhai sy’n wynebu sawl rhwystr yn sgil hunaniaethau sy’n rhyngblethu. Yn y cynllun yma, rydyn ni’n defnyddio’r term Pobl o Liw i gynnwys pobl o dreftadaethau sy’n rhan o’r mwyafrif byd-eang, gan gynnwys treftadaeth Affricanaidd, Garibïaidd, Frodorol, Ladinaidd, y Dwyrain Canol, Dwyrain Asia, De Asia, Ynyswyr y Môr Tawel a'r rhai sydd â threftadaeth gymysg.

Mae camau gweithredu gwrth-hiliaeth Peak ar gyfer 2022/23 yn adeiladu ar yr hyn rydyn ni wedi’i ddysgu drwy ein cynllun gwrth-hiliaeth peilot, gan gydnabod bod y gwaith yma’n waith hirdymor a bod rhaid iddo fod yn seiliedig ar berthnasoedd ystyrlon, deialog ac yn fwy na dim, gweithredu:

Bydd Peak yn gwneud y canlynol:

1.     Rhoi lle canolog i Bobl o Liw yn ein gwaith rhaglennu gydag o leiaf 30% o’n rhaglennu yn cael ei gyflawni gan Artistiaid o Liw – ymrwymiad i gydweithio â mwy o artistiaid ac ymarferwyr creadigol gydag ehangder o brofiadau byw. Byddwn yn adrodd ar hyn drwy ein sianeli cyhoeddus yn ogystal ag adrodd yn uniongyrchol i’n cyllidwyr. Amserlen: ar unwaith

2.     Recriwtio lleiafswm o ddau aelod bwrdd newydd sydd â hunaniaethau sy’n rhan o’r mwyafrif byd-eang i Fwrdd Peak gan sicrhau cynrychiolaeth ehangach o gefndiroedd, hunaniaethau a phrofiad o fewn ein harweinyddiaeth, sy’n hollol wyn (100%) ar hyn o bryd. Oherwydd ymddeoliadau diweddar ac sydd ar fin digwydd, mae angen o leiaf dri ymddiriedolwr newydd ar Peak. Byddwn yn ymwybodol o amseriad penodiadau newydd fel bod cynrychiolaeth yn parhau. Rydyn ni’n cynnig cefnogaeth gan gyfoedion a mentoriaid i ymddiriedolwyr newydd. Amserlen: Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Peak ym mis Tachwedd 2022

3.     Ehangu cynnwys gwrth-hiliaeth llyfrgell ein Hystafell Ddarllen ar Blatfform 2 yng Ngorsaf Drenau’r Fenni gan ganolbwyntio ar awduron o liw a’r rhyngblethiad rhwng hil, hinsawdd, dad-drefedigaethu, barddoniaeth ac arferion artistig radical. Targed – 30 ychwanegiad i’r llyfrgell (llyfrau, traethodau neu gyfnodolion) a thri ysgogiad o’r ystafell ddarllen fel rhan o Casgleb, ein rhaglen ymchwil a datblygu yn 2022. Mae'r llyfrgell yn cael ei thynnu ynghyd drwy argymhellion gan artistiaid, pobl ifanc a phartneriaid; gallwch weld mynegai ein llyfrgell sy’n tyfu yma. Amserlen: erbyn 31 Rhagfyr 2022

4.     Rhaglennu dysgu gwrth-hiliaeth ar gyfer staff, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, ymarferwyr llawrydd a phobl ifanc. Ochr yn ochr â chyllideb benodol i bobl ifanc gynllunio eu dysgu eu hunain, mae staff ac ymddiriedolwyr yn ymrwymo i barhau â dysgu personol ac i raglennu o leiaf un digwyddiad hyfforddi fydd yn cael ei arwain yn allanol a’i drefnu gan Peak mewn cydweithrediad â'n rhwydweithiau o gydweithwyr, cyfoedion a phartneriaid. Amserlen: erbyn mis Chwefror 2023

5.     Mynd i’r afael ag ymddygiad a iaith nad yw’n ateb ymrwymiadau a gwerthoedd Peak drwy roi protocol clir ar waith ar gyfer cyfarfodydd a gweithgareddau ochr yn ochr â phroses gwyno a phryderon dryloyw sy’n golygu bod modd codi materion ac ymdrin â nhw’n ddienw. Amserlen: erbyn mis Mehefin 2022

6.     Adolygu a diweddaru ein prosesau recriwtio i rymuso ac annog pobl sy'n ymarddel fel pobl dduon neu fel pobl o liw nad ydyn nhw’n ddu i ymateb i alwadau agored. Ein targed ar gyfer 2022 yw 15% o’r ceisiadau. Rydyn ni’n cydnabod bod galluogi a chefnogi pobl i symud i swyddi cyflogedig mewn ardal wledig yn gofyn am ymrwymiad hirdymor ac adnoddau i gefnogi adleoli. Amserlen: recriwtio arweinwyr haf 2022

– Tîm Peak: Justine Wheatley, Melissa Appleton, Louise Hobson, Esyllt Lewis, Gwenllian Davenport. Crughywel/Y Fenni, Ebrill 2022



Gweler yn atodedig fan hyn: ein
Cynllun Gweithredu Gwrth Hiliaeth cyntaf (Gorffennaf 2020) ac adolygiad o'r cynllun (Ionawr 2022).