Cyfleoedd | Opportunities
English Cymraeg
GWEITHIWCH GYDA NI - Galwad Am Ymddiriedolwr
Performance Butty gyda Stefhan Caddick & MBACT, Hinterlands Cymru, 2019, llun gan Vaida Barzdaite
Mae Peak Cymru yn chwilio am Ymddiriedolwyr newydd fydd yn dod â brwdfrydedd, dychymyg ac ymrwymiad i'n bwrdd. Os ydych chi’n gwerthfawrogi creadigrwydd fel offeryn hanfodol ym mywydau pobl ac yn credu mewn creu dyfodolau cadarnhaol i gymunedau gwledig Cymru, carem glywed gennych.
I ymgeisio, anfonwch ffurflen Datgan Diddordeb (uchafswm 500 gair) gyda’ch CV at info@peak.cymru a chwblau’r holiadur Cydraddo ar ein gwefan erbyn 31 Gorffennaf 2022
Fel elusen gelfyddydol fechan wedi’i lleoli yn y Mynyddoedd Duon, rydym yn awyddus fod ein bwrdd yn adlewyrchu amrywiaeth o hunaniaethau a phrofiadau, felly rydym yn annog ceisiadau yn arbennig gan bobl nad yw eu treftadaeth, hunaniaeth neu lleisiau’n cael eu cynrychioli’n gyffredin yn y sector celfyddydau a diwylliant a / neu mewn cymunedau gwledig gan gynnwys pobl o hunaniaethau mwyafrif byd-eang.
Hoffem ehangu sgiliau a gwybodaeth ein Bwrdd, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd ag ymarfer artistig, a’r rheiny sydd â chefndir proffesiynol mewn cyllid, cyfathrebu, cynaliadwyedd a’r amgylchedd.
Rôl wirfoddol yw hon, ond rydym yn cynnig treuliau i ddiwallu costau teithio ac er mwyn cefnogi unrhyw anghenion personol o ran cael mynediad. Gallwch fod yn byw unrhyw le yn y DU am fod cyfarfodydd yn cael eu cynnal ar-lein, ond gofynnwn bod ymddiriedolwyr yn ymuno ag o leiaf un cyfarfod wyneb yn wyneb bob blwyddyn.
Expression of Interest (word doc)
Expression of Interest (online form)