Community Hires at The Old School, Crickhowell
Llogi Cymunedol yn yr Hen Ysgol, Crughywel

Peak offers a large, accessible studio and adjacent kitchen in its Old School building in Crickhowell for regular hire or one-off events. The studio is approximately 90m2, with wooden floors and plenty of natural light.

Facilities

  • WiFi, heating, access to two toilets (one toilet is accessible)

  • Use of a well-equipped modern kitchen including crockery, glasses and cutlery for up to 50 people

  • Tables and chairs are available as well as a LCD screen for presentations

  • Limited parking of up to 4 cars is available on site with free parking available nearby

  • Links with local suppliers and caterers (the Peak team can organise catering/refreshments for an additional administrative charge)

Pricing

 One-off hires:

  • £180/day for commercial organisations, companies or individuals

  • £120/day for registered charities, not-for-profit groups and local residents

The space is bookable for slots of a half day (up to 4 hours) or a full day (up to 8 hours). Available hire period 9am – 9pm. Weekend rates available on request. Party bookings will be liable to an additional cleaning fee. Please note that we cannot host events with very loud music due to having neighbours close-by.

Regular bookings:

  • Shorter booking slots are possible for long-term, regular bookings and we welcome discussion with interested groups to set rates that are viable for them.

  • Current regular users of the building include a Tai Chi group, a pilates group, Fathom Trust’s Crafter’s Cafe, a pottery group co-hosted with Brecon & District Mind and Crickhowell Paragliding.

  • We follow a termly calendar for regular users with breaks at Easter, Summer and Christmas (we do not charge in holiday periods).

Contact

For more information, please contact: polly@peak.cymru

Mae Peak yn cynnig stiwdio fawr a hygyrch a chegin gyfagos yn adeilad yr Hen Ysgol yng Nghrughywel i’w llogi’n rheolaidd neu ar gyfer digwyddiadau untro. Mae’r stiwdio tua 90m2, gyda lloriau pren a digonedd o olau naturiol.

Cyfleusterau

  • Cysylltiad di-wifr, gwres, mynediad at ddau dŷ bach (gydag un o’r tai bach yn hygyrch)

  • Defnydd o gegin fodern ac offer gan gynnwys crochenwaith, gwydrau, a chyllyll a ffyrc i hyd at 50 o bobl

  • Mae byrddau a chadeiriau ar gael yn ogystal â sgrin LCD ar gyfer cyflwyniadau

  • Mae parcio cyfyngedig i hyd at bedwar car ar gael ar y safle, gyda llefydd parcio am ddim gerllaw

  • Cysylltiadau gyda chyflenwyr ac arlwywyr lleol (gall tîm Peak drefnu arlwyo/lluniaeth am ffi weinyddol ychwanegol)

Prisiau

 Llogi untro:

  • £180 y dydd i gwmnïau, unigolion neu sefydliadau masnachol

  • £120 y dydd i elusennau cofrestredig, grwpiau nid-er-elw, a thrigolion lleol

Mae modd bwcio’r gofod am slotiau o hanner diwrnod (hyd at bedair awr) neu ddiwrnod llawn (hyd at wyth awr). Y cyfnod llogi sydd ar gael yw 9am – 9pm. Mae cyfraddau penwythnos ar gael ar gais. Bydd archebion parti yn destun ffi lanhau ychwanegol. Dylech nodi na allwn ni gynnal digwyddiadau gyda cherddoriaeth swnllyd gan fod cymdogion yn agos.

Archebion rheolaidd:

  • Mae modd cynnig slotiau byrrach ar gyfer archebion rheolaidd hirdymor, ac rydyn ni’n agored i drafod gyda grwpiau sydd â diddordeb yn hynny er mwyn gosod cyfraddau sy’n addas iddyn nhw.

  • Mae defnyddwyr rheolaidd presennol yr adeilad yn cynnwys grŵp Tai Chi, grŵp Pilates, Caffi Crefftwyr Ymddiriedolaeth Fathom, grŵp crochenwaith wedi’i gynnal ar y cyd â Mind Aberhonddu a’r Ardal a Grŵp Paragleidio Crughywel.

  • Rydyn ni’n dilyn calendr tymhorol ar gyfer defnyddwyr rheolaidd, gydag egwyliau adeg y Pasg, yr haf, a’r Nadolig (dydyn ni ddim yn codi ffi yn ystod gwyliau).

Cysylltu

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â polly@peak.cymru.