Comisiynau | Commissions
This page is a space for in-progress research and new commissions from artists working with and alongside Peak’s past, ongoing and future programmes.
Mae'r dudalen hon yn ofod byw i ni arddangos gwaith-ar-waith, ymchwil a chomisiynau newydd gan artistiaid sy'n gweithio fel rhan o raglenni Peak.
Ecosystem and Meditation on Multilingualism
Ecosystem a Myfyrdod ar Amlieithrwydd
Poster box Commission | Comisiwn Poster mewn Ffrâm
Platfform 2: June 10th - July 4th | 10 Mehefin - 4 Gorffennaf
Marva Jackson Lord
Walking Backwards into the Future
Cerdded am yn ôl Tua’r Dyfodol
Online | Ar-lein: 4/11 2021 - 30/03 2022
Kandace Siobhan Walker - Kirsti Bohata - Esyllt Angharad Lewis
In imagining strategies for looking ahead from challenging times, Peak has been guided by Raymond Williams’ extensive writings which probe what ‘the future’ means: where it resides, how it’s produced. Earlier this year, to commemorate the centenary of the birth of the cultural theorist, socialist and educator, who was born in 1921 in Pandy, just up the road from us, we invited practitioners we’ve been inspired by to situate some of his ideas in our current moment, to see where his writings might collide with contemporary debates and ideas around Welshness, rurality and the seeming impossibility of meaningful societal change in a time of multiple intersecting crises.
Wrth i Peak geisio dychmygu ffyrdd o edrych tua’r dyfodol ynghanol cyfnod heriol, fe’m tywyswyd gan waith Raymond Williams yn ei ehangder wrth iddo geisio diffinio’r hyn a olygir gan ‘y dyfodol’: lle mae’n byw, ym mha fodd y’i cynhyrchir. Eleni, i nodi canmlwyddiant genedigaeth y theorïwr diwylliannol, sosialydd ac addysgwr, a fagwyd ym Mhandy, lan y lôn o Peak, gwahoddom artistiaid a sgwennwyr sydd yn ein hysbrydoli i leoli rhai o’u syniadau o fewn ein moment unigryw, i weld lle all sgwennu Raymond Williams daro’n erbyn rhai o’n pryderon a disgyrsau cyfoes ynghylch Cymreictod, bywyd gwledig ac amhosibilrwydd credu y gellir cyflawni unrhyw newid cymdeithasol arwyddocaol mewn oes pan fo argyfyngau’n pentyrru a phentyrru .
This took the form of three artist-led reading groups which were hosted online in May 2021 under the title Walking backwards into the future, after a 1985 essay in which Williams considers how we can look to the future when even our language is rooted in the past (‘recovery, rehabilitation, rebuilding’). Each reading group host was then invited to extend the conversations which first began in these sessions through a form of their choice. We share these with you here for the first time and the original reading materials can be accessed here.
Trodd hwn yn dri grŵp darllen creadigol a gynhaliwyd arlein ym mis Mai 2021 dan y teitl Cerdded am yn ôl Tua’r Dyfodol, ar ôl ysgrif o 1985 lle mae Williams yn cysidro ffyrdd o edrych i’r dyfodol pan fo’r geiriau a ddefnyddir i drafod yr hyn sydd tu hwnt i nawr yn sownd yn y gorffennol. Cafodd arweinwyr y grwpiau wahoddiad wedyn i ehangu ar y sgyrsiau a daniwyd yn eu grŵp mewn cyfrwng o’u dewis. Dyma rannu’r ymatebion hynny am y tro cyntaf. Cymerwch olwg hefyd ar ddeunydd darllen y tri grŵp gwreiddiol yma.
Kandace Siobhan Walker
Notes on Dreaming as Praxis
Yn ei ffilm-draethawd a chyhoeddiad digidol ‘Notes on Dreaming as Praxis’, mae’r sgwennwr Kandace Siobhan Walker (a gyfrannodd gerddi i’n cyhoeddiad ululations dros yr haf hefyd) yn gosod syniadau Williams ochr-yn-ochr â meddylwyr pwysig eraill i ffurfio dadl dros freuddwydio’n wyllt a’n feiddgar, a mynnu’r amhosib.
In her poetic essay film and accompanying publication ‘Notes on Dreaming as Praxis’, the writer and filmmaker Kandace Siobhan Walker (who also contributed poems for our publication ululations this summer) places Williams’ ideas alongside other key thinkers to formulate an argument for dreaming wildly, dreaming boldly, and demanding the seemingly impossible.
Kirsti Bohata
Between Country and City
Mae ysgrif yr ysgolhaig llenyddol Kirsti Bohata, ‘Between Country and City’, yn ymateb i drafodaeth ei grŵp darllen ar y modd y caiff gofodau a chymunedau gwledig eu ‘fframio’, a’r modd y mae’r broses o greu ac ail-greu diwylliant yn dibynnu ar bwy sy’n adrodd y stori.
The essay from Professor Kirsti Bohata, ‘Between Country and City’, responds to her reading group’s discussion of how rural spaces and inhabitants are ‘framed’, and how so much of culture’s making and remaking depends on who’s narrating it.
Esyllt Angharad Lewis
Technoleg Gwyblodau
Daeth ymateb yr artist, golygydd a chyfieithydd Esyllt Angharad Lewis (sydd ers y prosiect hwn wedi dod yn aelod o dîm staff Peak) yn ddarn sain, sydd rhywle rhwng nodyn llais a cherdd lafar, sy’n archwilio llithrigrwydd iaith. Mae ‘Technoleg Gwyblodau’ yn llifo rhwng y Gymraeg a’r Saesneg ac o gwmpas tensiynau rhwng natur a thechnoleg, terminoleg jargonllyd a mynegiant artistig.
For artist, editor and translator Esyllt Angharad Lewis (who has since joined Peak’s staff team as Communications Associate), her response became an audio work, which sits somewhere between voice note and poem, exploring the slipperiness of language. ‘Technoleg Gwyblodau’ flows between Welsh and English and around the tensions between nature and technology, jargon and artistic expression.
Fel grŵp o gomisiynau i’w gwylio, darllen a’u clywed ynghyd, mae’r tri darn yn ffurfio cywaith llawn syniadau am yr hyn mae’n ei olygu i edrych tua’r dyfodol nawr. Maent hefyd yn cynnig ffyrdd o feddwl, dychmygu a gweithio gyda’n gilydd i ni yn Peak, wrth i ni gychwyn cyfnod o ymchwil a datblygu hir-dymor gyda Phlatfform 2, ein gofodau newydd yng ngorsaf drenau’r Fenni.
Viewed, read and listened to together, this group of commissions collects together a toolkit of ideas for what it means to look to the future now. They also offer strategies for ways of thinking, imagining and working together for the Peak team, as we enter a period of long-term research and development centred around Platfform 2, our new spaces at Abergavenny Train Station.