We are really pleased to announce Bella Milroy will be joining us in Abergavenny for a residency jointly programmed by ArcadeCampfa and Peak Cymru.

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi y bydd Bella Milroy yn ymuno â ni yn y Fenni ar gyfer preswylfa wedi’i rhaglennu ar y cyd rhwng ArcadeCampfa a Peak Cymru.

Bella Milroy is an artist and writer who lives in her hometown of Chesterfield, Derbyshire. She works responsively through mediums of sculpture, drawing, photography, text, writing, gardening and curating. She makes work about making work (and being disabled) and not being able to make work (and being disabled). This process-based practice is fundamental to her as a disabled artist. She is continually motivated by concepts of public and private spaces and where the sick and/or disabled body exists within them, themes which emerge throughout much of her work.

Bella will be working in and around Platform 2 from 12 - 16 July 2023.


Artist ac awdur yw Bella Milroy sy’n byw yn ei thref enedigol yn Chesterfield, Swydd Derby. Mae’n gweithio’n ymatebol drwy gyfrwng cerflunwaith, arlunio, ffotograffiaeth, testun, ysgrifennu, garddio a churadu. Mae’n creu gwaith am greu gwaith (a bod yn anabl) a methu â chreu gwaith (a bod yn anabl). Mae’r arfer ar sail proses hwn yn sylfaenol iddi hi fel artist anabl. Mae’n cael ei chymell yn barhaus gan y cysyniadau o ofodau cyhoeddus a phreifat a lle mae’r corff sâl a/neu anabl yn bodoli y tu mewn iddynt, themâu sy’n codi yn llawer o’i gwaith.

Bydd Bella’n gweithio ar Blatfform 2 ac o’i gwmpas rhwng 12 a 16 Gorffennaf 2023.