About

English Cymraeg

Sefydliad sy’n cydweithio gyda phobl ifanc, artistiaid a chymunedau aml-genhedlaeth yw Peak Cymru. Rydyn ni’n gweithio o ddau leoliad yn y de ddwyrain, sef gorsaf drenau a hen ysgol, a hefyd o leoliadau gwledig fel mynyddoedd, ogofâu a chamlesi.  

Drwy raglenni i bobl ifanc, ymchwil gydweithredol, a phreswylfeydd artistiaid, rydyn ni’n dathlu ecolegau a nodweddion unigryw ein hardal, gan gynnwys y Mynydd Du, y Gororau, a Dyffryn Wysg. Un rhan allweddol o’n gwaith yw cynnal trafodaethau cyhoeddus sy’n gwreiddio sgyrsiau argyfyngus byd-eang mewn llefydd a chyd-destunau lleol, dan arweiniad artistiaid a phobl ifanc mewn deialog gyda ffermwyr, daearegwyr, awduron, garddwyr, dylunwyr systemau a gwneuthurwyr a meddylwyr eraill.

Rydyn ni’n credu bod artistiaid yn creu bydoedd ac yn dychmygu ac yn gwireddu ffyrdd newydd o fyw; bod pobl ifanc ar flaen y gad wrth greu newid, ac mae angen cymorth, undod a grym arnyn nhw i wneud gwaith y dyfodol; a bod angen sawl ffordd o weithio, cyfathrebu, creu a bod mewn byd lle mae pob rhywogaeth yn ffynnu.

Ein Nodau Strategol yw:

  • Gweithio gyda Phobl Ifanc, ac ar eu cyfer

  • Bod yn gymydog da  

  • Cefnogi ymchwil drawsddisgyblaethol, artistiaid a churaduron

  • Gwreiddio sgyrsiau byd-eang yn y lleol

  • Dathlu ecolegau a nodweddion unigryw ein hardal 

  • Meithrin meysydd a chroesawu newid

  • Gweithredu’n ecolegol